Rheoli Y Plu Cyfle Prin i Reoli Tafarn Gymunedol Mwy na thafarn – partneriaeth gyda phwrpas Tafarn a chegin wedi’u hadnewyddu’n llawn Fflat uwchben wedi’i gynnwys Perchnogaeth gymunedol gyda chefnogaeth leol gref Buddsoddiad o £1.5m yn y safle Model partneriaeth hyblyg Targed ailagor: Gaeaf 2026 Rydym yn chwilio am weithredwr profiadol sy’n rhannu ein gwerthoedd i helpu siapio dyfodol Tafarn y Plu. I wybod mwy, darllenwch ein pecyn mynegi diddordeb: Pecyn Mynegi Diddordeb (PDF) Mynegi Diddordeb (1-2 dudalen) Anfonwch gais drwy ebost at menteryplu@gmail.com Yn eich cais Mynegi Diddordeb, bydd angen cynnwys: Gwybodaeth amdanoch chi / eich sefydliad Profiad perthnasol Amlinelliad o’ch cynnig Argaeledd ac amserlen Nid oes angen cynllun busnes llawn ar hyn o bryd.